<$BlogRSDURL$>
CartwnFlog
25.5.04
 
Cewch chi wneud sylw unigol ar bob post erbyn hyn.

16.5.04
 
Dwi'n darllen llawer am Gerallt Cymro'n ddiweddar. Felly...


Gerallt Cymro Posted by Hello

Gobeithio mae'n at eich dant

 
Gwefan Macsen

Dyma Cartwn gan Macsen (gweler dolen yn adran "y rhithfro. Da iawn IFAN - yn arbedig wedi arlunio'r peth gyda llygoden. Dwi'n gallu gweld taw llygoden oedd cyfrwng yr arlunio achos yr ysgrifenu'n edrych fel fy ysgrifen fy hun gyda llygoden. Dyna pam dwi'n moyn tabled graffeg. Lot haws yw trin lluniau gyda nhw.

14.5.04
 
Mae Cartwnau wedi eu hanimeiddio ar Wefan Al-Jazeera. Diddorol sut mae'n nhw'n adlewyrchu'r ddiwylliant eu bod nhw dod mas ohoni.

13.5.04
 
Drwg yn y Caws?

Cartwniau Cawslyd: safwe daryl cage unwaith eto.
Gem cartwn hel caws tom a dieri:
Lluniau Lwni Tiwns
Ac wrth gwrs
spidi gonzales - caeth i'r cawslyd
Sydd erbyn heddiw yn wleidyddol anghywir:

12.5.04
 
Tynged y Llaeth

Tynged y Llaeth gan Bratiaith Posted by Hello

Mae Saunders Lewis yn destun gwych i gartwn.
bratiaith

11.5.04
 
Moderneiddio'r Eisteddfod Ddwyieithog

Moderneiddio'r Eisteddfod Ddwyieithog.prawf yw hyn cliciwch ar y llun am un maint llawn Posted by Hello

Gobeithio ni ffydd yn digwydd

 
Wrth ddarllen The Cartoon Connection gan y Cartwnydd
William hewison a oedd golygydd celf y cylchgrawn Punch am gyfnod o 32 flynedd cyn 1987, ces i'r ysbrydoliaeth i'r cartw^n isod. Yr ysbrydoliaeth oedd Rwpeth a sgwenodd Alan Coren yn y rhagair am y cartwnydd cyntaf yn arlunio ar wal yr ogof yn Montignac yn y Ffrainc
dyfyniad doniol ond rhy gywir ganddo yw:
Democracy consists of choosing your dictators, after they've told you what it is you want to hear.

Colli wrth Gyfieithu

10.5.04
 
Coleg Ffederal

cliciwch ar y llun am y stori.

Noel Lloyd a Derec Llwyd Morgan o Brifysgol Cymru Aberystwyth sydd y testunau.

 
Mae gwefan Cartwnau Hack gan Matt Buck sy'n cyfranu i Tribune (sylwch ar ddolenni Cartwnau Tribune gan gynnwys "Parliament Live" ;0)



 
Mae cartwnau Steve Bell yn y Guardian yn wych. Diolch i Flog Macsen/aled/newiddiaduraeth... am fy atgoffa fi amdano, be' 'di blog am cartwnau heb grybwyll o'r hen Bell 'na.
Mae'r Spectator yn dda hefyd, ond ddim yn gywir gwleidyddol.

9.5.04
 
Diolch unwaith eto i Daryl Cage Cartwnau gwleidyddol newydd pob dydd.

7.5.04
 
Tad y cartwnydd modern yw Hogarth

5.5.04
 
Mae gan Cymuned cartwniau arbennig o dda.

 
Mae cartwn crefyddol ar wefan addolwyr capel y morfa, Aberystwyth. Mae rwpeth cartwnaidd am y llun "dawelwr y don" hefyd. Nid sarhad yw hon, mae cartwniau a gweithiau celf yn rhannu dulliau - yn arbennig eu defnydd o eiconau. .
Mae gwefan tynnu lluniau
yma'n dangos sut mae delw-arluniaeth (eiconograffi) yn gweithio.


2.5.04
 
Dwi ddim yn siwr be' dwi'n meddwl am hyn

 
Mae Michael Howard wedi amlinellu gwrthwynebiad ei blaid i gyfansoddiad i'r Undeb Ewropeaidd drwy fynnu nad yw'r Ceidwadwyr am fod yn rhan o 'wlad o'r enw Ewrop'.




1.5.04
 
Cartwniau am Meical Howard


Powered by Blogger